Anogwyr Dysgu

English

Llwybrau Dysgu 14 –19: Yr Anogwr Dysgu

Beth yw Anogwr Dysgu?

Gall fod yn berson, neu’n swyddogaeth y mae tîm yn ei gyflawni, sy’n rhoi cymorth helaeth i ddysgwyr i’w:

  • helpu i ddatblygu sgiliau dysgu
  • helpu i wneud y defnydd gorau o’u harddulliau dysgu, a datblygu’r rhain
  • helpu i ddatblygu i’r eithaf mewn sawl maes o ddeallusrwydd, yn cynnwys deallusrwydd
    emosiynol.

Bydd cymorth Anogwr Dysgu hefyd yn eu helpu i ganfod targedau a chynllunio llwybr dysgu unigol priodol sy’n ystyried sgiliau, priodoleddau a phrofiad ymhob agwedd ar fywydau dysgwyr.

Mae’r Disgrifiad Swydd Drafft ar gyfer Anogwyr Dysgu o’r Canllawiau Llwybrau Dysgu a
ddatblygwyd gan ymarferwyr fel rhan o’r prosiectau peilot yn 2004 yn http://new.wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/403829/1326231/WELSH_PAGES_1b.pdf?lang=cy.

Beth mae Anogwr Dysgu yn ei wneud?

Mae Anogwr Dysgu yn rhoi cymorth, arweiniad, hyfforddiant a mentora i ddysgwyr i’w helpu
i gynllunio eu llwybr dysgu unigol, gwneud penderfyniadau, nodi amcanion ac yna eu helpu
i wneud cynnydd. Bydd Anogwr Dysgu fel arfer yn gweithio fel rhan o dîm a bydd ar y cyfan yn gweithio gyda grwpiau o ddysgwyr yn hytrach na chydag unigolion, gan ganolbwyntio ar ddysgu. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd materion fel bwlio, iechyd rhywiol ac ati yn rhan o gymorth personol yn hytrach na chymorth anogwr dysgu.

Pwy all fod yn Anogwr Dysgu?

Athrawon, darlithwyr, gweithwyr ieuenctid, ymgynghorwyr gyrfaoedd a chynorthwywyr
addysgu yn bennaf neu bobl eraill sy’n gysylltiedig â dysgu seiliedig ar waith sydd â phrofiad helaeth o hyfforddi. Mae angen i Anogwyr Dysgu fod yn bobl â chanddynt wybodaeth helaeth am bobl ifanc a’u dysgu. Dylai bod ganddynt sgiliau ac empathi penodol ar gyfer gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu eu gallu i wneud dewisiadau a chynyddu eu cyfleoedd
dysgu i’r eithaf. Bydd hyn yn berthnasol mewn ysgolion, colegau a hyfforddiant mewn gwaith.

Sut mae rôl Anogwr Dysgu yn berthnasol mewn Llwybrau Dysgu?

Cymorth Anogwr Dysgu yw un o’r chwe phrif elfen o’r Llwybrau Dysgu ac mae’n rhan o’r pecyn cymorth i bob dysgwr 14–19 oed, ynghyd â mynediad i gymorth personol a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd.

Oes pobl sydd eisoes yn gwneud hyn?

Y weledigaeth ar gyfer rôl yr Anogwr Dysgu yw y dylid rhoi pwyslais mwy nag erioed o’r blaen ar gymorth i ddysgu. Fel pob elfen allweddol ar Lwybrau Dysgu, mae rôl yr Anogwr Dysgu yn seiliedig ar brofiad ac arbenigedd yng Nghymru o’r hyn sy’n gweithio i ddysgwyr. Bydd llawer o bobl broffesiynol eisoes yn cyflawni rhannau o’r rôl hon. Mae’r fframwaith Llwybrau Dysgu yn newydd, felly nid oes neb wedi cyflawni’r rôl lawn eto mewn perthynas â’r fframwaith newydd cyflawn. Dengys tystiolaeth o’r prosiectau peilot fod cynyddu’r
cymorth i ddysgu fel hyn yn talu ar ei ganfed o ran cyflawniad dysgwyr er ei bod yn bosibl nad ydynt yn cael cymaint o amser addysgu uniongyrchol o ganlyniad i hynny.

Cyfeiriad: Llwybrau Dysgu 14 –19 Cymorth anogwr dysgu Pecyn gwybodaeth ar gyfer Rhwydweithiau a Phartneriaid 14–19 mewn Ysgolion, Colegau a Hyfforddiant Mewn Gwaith http://new.wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/403829/1326231/LCIP-_final-Cym.pdf?lang=cy

Cyflwyniad i hyfforddiant Anogwyr Dysgu

Y pum modiwl craidd

Mae i’r rhaglen hyfforddi genedlaethol bum modiwl craidd. Caiff pob un o’r pum modiwl hyn eu dysgu dros gyfnod o ddeuddydd, gan roi cyfanswm o ddeng niwrnod. Os dymunwch ddod yn Hyfforddwr Dysgu Achrededig, bydd angen i chi gyflwyno gwaith i’w asesu hefyd, a bydd hyn yn cymryd amser yn ychwanegol at y deng niwrnod hyn.

Cydnabyddiaeth ac achredu

Er mwyn dod yn Anogwr Dysgu Cydnabyddedig rhaid i chi fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pum modiwl craidd (sef deng niwrnod o hyfforddiant). Bydd Anogwr Dysgu Cydnabyddedig yn cael tystysgrif presenoldeb oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Er mwyn dod yn Anogwr Dysgu Achrededig rhaid i chi fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pum prif fodiwl (deng niwrnod o hyfforddiant) a llenwi’r asesiad ar gyfer pob un. Bydd Anogwr Dysgu Achrededig yn cael tystysgrif oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a 10 o gredydau oddi wrth y brifysgol sy’n achredu am bob modiwl ar Lefel 4 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (sef cyfanswm o 50 o gredydau).

Os gwnewch gais i ddilyn cwrs addysg uwch yn y dyfodol, mae’n bosibl y bydd modd defnyddio credydau ar Lefel 4 o’r rhaglen Anogwyr Dysgu tuag at y cwrs hwnnw os bydd y sefydliad yr ydych yn ymgeisio am le ynddo yn ystyried eu bod yn briodol.

Rhaid i chi gael cydsyniad eich rhwydwaith a’ch cyflogwr er mwyn ceisio cael eich achredu.

Sut caiff yr hyfforddiant ei drefnu

Caiff yr hyfforddant ei roi yn lleol a’i drefnu gan bedwar Cydlynydd Rhanbarthol Anogwyr Dysgu gan gydweithio weithio â chydgysylltwyr y rhwydweithiau. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer y Cydlynwyr Rhanbarthol yn yr adran Cysylltwch â Ni.

Y prifysgolion sy’n achredu

Mae pob un o’r pum modiwl yn cael eu hachredu gan un o’r prifysgolion a elwir gyda’i gilydd yn Gampws Cyntaf:

Modiwl 1: Y Broses Fentora
Achredir gan Brifysgol Caerdydd

Modiwl 2: Hyfforddi i Ddysgu
Achredir gan Brifysgol Morgannwg

Modiwl 3: Strategaethau Astudio
Achredir gan Brifysgol Morgannwg

Modiwl 4: Deddfwriaeth
Achredir gan UWIC (Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd)

Modiwl 5: Dulliau a Systemau Cyfeirio
Achredir gan Brifysgol Cymru, Casnewydd

Cymryd rhan

I gymryd rhan, rhaid i chi gael eich enwebu gan eich cydlynydd rhwydwaith 14-19.

Trosolwg o’r modiwl: ‘Y Broses Fentora’

Cynhelir hyfforddiant ar gyfer Y Broses Mentora dros ddau ddiwrnod gyda thua un mis rhyngddyn nhw. Byddwch yn derbyn llyfr adnoddau cyn y sesiynau hyfforddi. Yn hwn, cewch wybodaeth gefndirol ar y broses mentora, gwybodaeth am y sgiliau sydd eu hangen ar hyfforddwyr dysgu a phrotocolau a gweithdrefnau ‘r broses. 

Paratoi

Dylech astudio rhan 1 a 2 o’r llyfr adnodau cyn mynychu’r diwrnod cyntaf o hyfforddiant. Dylid astudio Rhan 3 cyn yr ail ddiwrnod o hyfforddiant a dylech hefyd ystyried y gwaith yr ydych wedi ei wneud yn y cyfamser.

Diwrnod 1

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau llawn a sesiynau grŵp. Mae’n darparu cefndir i’r rhaglen hyfforddi achredig ac hefyd yn delio â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y broses mentora yn ogystal â darparu dealltwriaeth o ddulliau dysgu a chynlluniau gweithredu.

Rhaglen

  • Croeso: cyflwyniad i raglen hyfforddi achredig yr hyfforddwr dysgu
  • Modiwl mentora
  • Rheolau
  • Beth yw mentora?
  • Mentora ac hyfforddi: tebygrwydd a gwahaniaethau
  • Adeiladau perthynas a rhoi a derbyn adborth
  • Dulliau dysgu: VAK a Honey a Mumford
  • Cynlluniau Gweithredu: gosod nodau/targedau SMART
  • Astudiaethau achos
  • Cyfathrebu: sgiliau gwrando gweithredol, ysgrifenedig cyfathrebu a holi
  • Cyfathrebu: rhwystrau i wrando, gwrando gweithredol a holi effeithiol

Diwrnod 2

Fel gyda Diwrnod 1, mae rhaglen Diwrnod 2 yn cynnwys sesiynau llawn a sesiynau grŵp. Yn ystod y sesiynau hyn, cewch gyfle i wneud ymarferion i ddatblygu’ch gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o swyddogaethau allweddol hyfforddwr dysgu. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau ar gynorthwyo a herio dysgwyr, cynllunio datblygiad personol, dulliau gwerthuso a pharatoi dyddiaduron adlewyrchol. 

Rhaglen

  • Croeso a golwg ar y diwrnod yn gyffredinol
  • Cymorth a sialens
  • Gweithgaredd ar gymorth a sialens
  • Data disgyblion a dadansoddiad o anghenion dysgu
  • Strategaeth ar gyfer cynnal dadansoddiad o anghenion dysgu
  • Cynllunio datblygiad personol
  • Gweithgaredd ar gynllunio datblygiad personol
  • Dulliau gwerthuso
  • Gwerthuso canlyniadau modiwlau dysgu
  • Dyddiaduron ar gyfer ystyried ac adlewyrchu
  • Gweithgareddau ar ddyddiaduron ystyried ac adlewyrchol
  • Y camau nesaf

Trosolwg o’r modiwl: ‘Hyfforddi i ddysgu’

Mae gwybodaeth, sgiliau ag agweddau Hyfforddi i Ddysgu yn adeiladau ar sail y berthynas mentora a sefydlwyd wrth astudio Y Broses Fentora. Yn gyffredinol, mae’r pwyslais ar ddeall dysg ac annog pobl ifanc i ddod yn well dysgwyr.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cyflwyno gwahanol ddiffiniadau o ddysgu a chodi ymwybyddiaeth o sut mae datblygiadau mewn niwro-wyddoniaeth wedi cynyddu ein dealltwriaeth o sut mae person yn dysgu. Bydd yn trafod y gwahanol syniadau am ddeallusrwydd a damcaniaethau am ddysgu. Bydd pwyslais ar bwysigrwydd hunan-barch mewn dysgu a sut i ganfod rhwystrau i ddysgu a’u goresgyn. Cyflwynir proses a gweithgareddau Hyfforddi i Ddysgu o fewn fframwaith ‘sialens fawr, cymorth cadarn’.

Darpariaeth

Sail ddamcaniaethol i’r modiwl a geir yn llawlyfr y modiwl. Yn ystod y ddau ddiwrnod o hyfforddiant, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’ch dulliau dysgu eich hunain a chael syniadau ar sut i ysgogi dysgu o fewn amgylchedd dysgu amlsynhwyraidd.

Trosolwg o’r modiwl: ‘Strategaethau Astudio’

Cynnwys

Mae’r modiwl hwn yn dilyn Hyfforddi i Ddysgu.

Mae’n cyflwyno dulliau o helpu pobl ifanc i ddatblygu eu defnydd o strategaethau dysgu. Mae’r modiwl yn cyfeirio at ddysgu ffurfiol a di-ffurfiol yn ogystal â dysgu mwy traddodiadol a sgiliau astudio yn seiliedig yn yr ysgol.

Bydd y strategaethau dysgu’n cynnwys:

  • Adnabod y cyflwr o ddysgu dwys o’r enw ‘y llif’
  • Cyfeirio at y nodau
  • Ymwybyddiaeth o amser
  • Sgiliau holi
  • Darllen gweithredol
  • Gwneud nodiadau
  • Gwybod sut mae’r cof yn gweithio a sut i’w ddefnyddio’n fedrus
  • Dysgu ar y cyd
  • Delweddu
  • Strategaethau trosglwyddo sgiliau o un sefyllfa i ‘r llall.

Darpariaeth

Yn ystod y ddau ddiwrnod hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn profi’n uniongyrchol ystod o strategaethau, gan eu rhoi eu hunain mewn gwell sefyllfa i gynorthwyo dysgwyr ifanc wrth iddyn nhw adeiladu a dod yn ymwybodol o’u sgiliau, eu cryfderau a’u dewis.

Trosolwg o’r Modiwl: ‘Deddfwriaeth’

Cynnwys

Rôl a chyfrifoldebau’r anogwr dysgu

  • Llwybrau Dysgu 14–19
  • Rhwydweithiau’r AALl
  • Iechyd a Diogelwch
  • Diogelu data

Rheoli cyfleoedd cwricwlaidd

  • Gofynion deddfwriaethol
  • Cwricwlwm cytbwys
  • Addysg gysylltiedig â Gwaith/ABCh/AG
  • Darpariaeth dwyieithog

Cyfleoedd Bugeiliol

  • Cyfleoedd Cyfartal
  • Anghenion Addysg Arbennig Deddf Anabledd (SENDA)
  • Cod Ymarfer Anghenion Addysg Arbennig
  • Gwahardd
  • Diogelu Plant

Rôl yr anogwr dysgu

  • Rheoli data
  • Adrodd yn ôl/atgyfeirio

Cyflwyno

Bydd yr addysgu yn rhyngweithiol ac wedi’i ganoli ar y myfyrwyr. Y bwriad yw archwilio paramedrau deddfwriaethol sydd wedi’u cysylltu â rôl yr anogwr dysgu gan wneud y dysgu’n brofiad pleserus.

Golwg gyffredinol ar ‘Dulliau a Systemau Cyfeirio’

Mae’r Dulliau a Systemau Cyfeirio yn adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi ei casglu yn y modiwlau eraill. Dan ddau bennawd cyffredinol sef Gwybodaeth a Sgiliau byddwch yn adolygu’r dysgu o’r modiwlau eraill a datblygu eich dysgu ymhellach i gwblhau eich dealltwriaeth o swyddogaeth graidd yr anogwr dysgu:

Gwybodaeth

Byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth o’r gofynion deddfwriaethol a’r can­llawiau polisi yn Deddfwriaeth. Byddwch yn integreiddio’ch gwybodaeth o’r modd y mae dysgu’n digwydd a’r arddulliau o ddysgu gafodd sylw yn Hyfforddi i Ddysgu a Strategaethau Astudio. Ym Dulliau a Systemau Cyfeirio byddwch hefyd yn ehangu eich gwybodaeth gyfredol drwy ymchwilio i’r ystod o arbenigedd anffurfiol a ffurfiol sydd ar gael i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu dysgu.

Sgiliau

Byddwch yn ystyried y sgiliau rydych chi eu cael yn ystod modiwlau blaenorol, byddwch yn ymarfer sgiliau mentora a hyfforddi i ddysgu a byddwch yn asesu strategaethau a datblygiad pobl ifanc. Ym Dulliau a Systemau Cyfeirio byddwch yn adeiladu ar y sgiliau hyn drwy ddatblygu eich gallu i asesu pryd byddai cyfeirio o fudd i ddatblygiad pobl ifanc. Byddwch yn dod i ddeall mor hanfodol ydy’r gallu i gydweithio i sicrhau bod cyfeirio yn llwyddo.

Learning Coaches

Centre for Lifelong Learning, University of Glamorgan
Pontypridd, Wales UK. CF37 1DL