Anogwyr Dysgu

English

Anogwr Dysgu yn chwarae rhan bwysig yn achos pobl ifanc ag anghenion arbennig

14 Hydref, 2008

Mae’r her y mae pobl ifanc ag anghenion arbennig yn ei hwynebu yn wahanol iawn i’r un sy’n wynebu pobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd. Yn y cyswllt hwn, mae’n annhebygol y bydd Anogwr Dysgu yn ymdrin â phroblemau fel absenoldeb neu bobl ifanc yn cefnu ar addysg. Yn hytrach, bydd angen ystyried materion fel tai, iechyd, budd-daliadau, cymdeithasoli a gwaith yn ofalus, gan gynllunio ar eu cyfer a chynnig cymorth yn y meysydd hyn.

Yn Ysgol Cae’r Drindod yn Hengoed, Rhwydwaith Caerffili, mae’r Anogwr Dysgu yn helpu dysgwyr wrth iddynt bontio o’r ysgol i fyd oedolion. Mae’r broses yn dechrau pan fyddant tua 14 oed pan fydd yr Anogwr Dysgu yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i ddechrau nodi eu dymuniadau ar gyfer y dyfodol a llunio cynllun pontio.

Manylion y cynllun wedyn fydd yn llywio gwaith yr Anogwr Dysgu. Gall yr anogwr ymchwilio i’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu a chyfeirio’r disgyblion at y gwasanaethau priodol, a bydd yn dilyn hynt person ifanc yn agos wrth i weithwyr proffesiynol eraill ymwneud ag ef neu hi.

Mae’r Anogwr Dysgu yn cysylltu’n rheolaidd â’r teulu gydol y flwyddyn, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwasanaethau a nodi anghenion pellach. O’r herwydd, mae teuluoedd ar eu hennill am nad oes rhaid iddynt ymwneud â nifer o asiantaethau. Mae’r gwasanaethau hwythau ar eu hennill oherwydd gall yr Anogwr Dysgu sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio ar yr adeg fwyaf priodol ac mewn modd sydd wedi’i gydgysylltu.

Sylwadau

Please enter your comments here

Name:

Email:

Location:

URL:

Remember my personal information

Notify me of follow-up comments?

or

Anogwyr Dysgu

Centre for Lifelong Learning, Prifysgol Morgannwg
Pontypridd, Wales UK. CF37 1DL