Anogwyr Dysgu

English

Mae anogwyr dysgu’n chwarae rôl bwysig yn y rhaglen Adeiladu Sgiliau

2 Awst, 2008

Mae cael mynediad i Anogwr Dysgu yn rhan hanfodol o’r rhaglen Adeiladu Sgiliau sy’n cael ei rhedeg gan North Wales Training ar draws y gogledd. Mae pob dysgwr sy’n ymuno â’r rhaglen yn cael Anogwr Dysgu a fydd yn darparu cymorth cyfrinachol iddynt ar faterion a allai fod yn effeithio ar eu dysgu. 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a dysgu gydol oes yn bennaf, a chaiff y dysgwyr sicrwydd bod modd iddynt gysylltu â’u Hanogwyr Dysgu ar unrhyw adeg er mwyn cael help i gyflawni eu nodau.

Mae’n hollbwysig dilyn hynt dysgwyr yn effeithiol drwy gydol y rhaglen, ac mae’r Anogwr Dysgu’n gyfrifol am adnabod dysgwyr newydd a chysylltu â nhw’n rheolaidd. Mae ef/hi yn ysgogi’r dysgwyr, yn eu cyfeirio at asiantaethau cymorth ac yn ategu eu rhaglen ddysgu drwy ennyn ymddiriedaeth a nodi unrhyw gymorth dysgu ychwanegol sydd ei angen arnynt i wella eu profiad dysgu.

Gall yr Anogwr Dysgu helpu ag amryw faterion, yn amrywio o bresenoldeb a chadw amser i broblemau personol: gall problemau’n ymwneud â theithio, tai, arian, cyfrifoldebau teuluol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, collfarnau, unigrwydd, bwlio ac anawsterau dysgu, effeithio ar allu dysgwr i ganolbwyntio a symud ymlaen.

Sylwadau

Please enter your comments here

Name:

Email:

Location:

URL:

Remember my personal information

Notify me of follow-up comments?

or

Anogwyr Dysgu

Centre for Lifelong Learning, Prifysgol Morgannwg
Pontypridd, Wales UK. CF37 1DL