Anogwyr Dysgu

English

Sir Fynwy yn datblygu strategaeth byramid er mwyn diwallu anghenion unigol o ran hyfforddiant

15 Hydref, 2008

Aeth rhwydwaith 14-19 Sir Fynwy ati i ddatblygu model ‘pyramid’ tri cham er mwyn darparu hyfforddiant dysgu. Bydd hwn yn golygu y bydd Anogwyr Cydnabyddedig a Chymwys yn canolbwyntio ar y rheini y mae angen hyfforddiant dwys arnynt ond gan barhau i ddarparu cymorth i’r rheini y mae llai o’i angen arnynt. 

Cam 1 – i bawb
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant unigol, mewn parau neu grwpiau unwaith neu ddwywaith y tymor. Caiff hyn ei gyplysu ag adolygiadau dysgu ysgol gyfan a phennu targedau, yn ogystal â nosweithiau rhieni a diwrnodau pennu targedau. Gallai tiwtoriaid personol mewn colegau neu athrawon cofrestru mewn ysgolion gynnig yr hyfforddiant hwn, neu weithwyr proffesiynol eraill fel cynorthwywyr cymorth dysgu neu gynghorwyr gyrfaoedd. Er na fyddant yn Anogwyr Dysgu Cydnabyddedig, bydd y rheini a fydd yn rhan o’r gwaith hwn wedi cael hyfforddiant dwys er mwyn gallu cyflawni’r swydd.

Cam 2 – i rai
Caiff disgyblion eu hyfforddi fesul un neu mewn parau o leiaf unwaith neu ddwywaith y tymor, a bydd modd ‘galw i mewn’ am gymorth ychwanegol yn ôl yr angen. Gallai Anogwyr Dysgu Cydnabyddedig roi’r hyfforddiant hwn neu rywrai eraill sydd wedi cael hyfforddiant dwys i gynnal y swyddogaeth. Gallai’r rheini gynnwys arweinwyr cynnydd ysgolion, staff cymorth ysgolion a cholegau, cynorthwywyr cymorth dysgu, mentoriaid Porth Ieuenctid neu gynghorwyr dysgu colegau.

Cam 3 – i ychydig
Mae hwn yn hyfforddiant arbenigol ar gyfer unigolion sy’n cael ei gynnig yn aml, gymaint ag unwaith yr wythnos o bosibl. Caiff pob hyfforddiant o’r fath ei ddarparu gan Anogwyr Dysgu Cydnabyddedig neu Achrededig.

Sylwadau

Please enter your comments here

Name:

Email:

Location:

URL:

Remember my personal information

Notify me of follow-up comments?

or

Anogwyr Dysgu

Centre for Lifelong Learning, Prifysgol Morgannwg
Pontypridd, Wales UK. CF37 1DL